#

Papur Briffio ar gyfer y Pwyllgor Deisebau
Y Pwyllgor Deisebau | 2 Ebrill 2019
 Petitions Committee | 2 April 2019
 

 

 

 


Rhif y ddeiseb: P-05-870

Teitl y ddeiseb: Gadewch i ni Sicrhau y Caiff Calon Pob Person Ifanc (10-35 oed) ei Sgrinio

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno rhaglen sgrinio calonnau i bob person ifanc rhwng 10 a 35 oed yng Nghymru. Mae cannoedd yn marw bob blwyddyn yng Nghymru o gyflwr calon heb ddiagnosis a bydd prawf ECG syml yn nodi’r rhan fwyaf o abnormaleddau’r galon fel y gellir rheoli cyflyrau’n effeithiol.

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae sesiynau sgrinio calonnau’n cynnwys prawf byr, 5-10 munud, sy’n gyflym ac yn ddi-boen ac yn gallu canfod y rhan fwyaf o abnormaleddau’r galon a gallai achub cannoedd o fywydau yng Nghymru. Yn rhanbarth Veneto yn yr Eidal, lle mae’r rhaglen sgrinio calonnau wedi’i chynnal ers 25 mlynedd, gostyngodd nifer yr athletwyr (dynion a menywod) a oedd yn marw’n sydyn o ataliad y galon o un mewn 28,000 bob blwyddyn i un mewn 250,000, yn ôl astudiaeth yn 2006 a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn y Gymdeithas Feddygol Americanaidd.

Y cefndir

Mae gwefanyr elusen Risg Cardiaidd yn yr Ifanc (CRY) yn dweud bod o leiaf 12 o bobl ifanc yn marw o gyflyrau’r galon nad ydynt wedi cael diagnosis bob wythnos yn y DU, ac mewn 80 y cant o achosion o farwolaeth cardiaidd sydyn mewn pobl ifanc nid oes dim symptomau blaenorol bod nam ar y galon. Dywed hefyd bod modd lleihau amlder marwolaeth cardiaidd mewn pobl ifanc yn ddramatig drwy sicrhau y caiff pob person ifanc rhwng 14 a 35 oed ei sgrinio. Nod rhaglen sgrinio fyddai canfod cyflwr cardiaidd sylfaenol. Mae rhestr o gyflyrau a allai, heb eu canfod, arwain at farwolaeth oherwydd cyflwr ar y galon wedi’i nodi ar wefan yr elusen CRY.

Mae CRY wedi cynnal sesiynau ledled Cymru yn profi pobl ifanc am gyflyrau’r galon nad ydynt wedi’u canfod o’r blaen. Mae’r elusen Calonnau Cymruhefyd yn cynnig sesiynau sgrinio’r galon i bawb sydd rhwng 8 a 45 mlwydd oed. Mae gwefan Calonnau Cymru yn nodi y gall gwasanaeth sgrinio’r galon preifat gostio oddeutu £300 y person, ond oherwydd bod rhoddion yn dod i law gan gefnogwyr Calonnau Cymru, dim ond £65 y bydd unigolion yn ei dalu am y sgrinio (ym mis Mawrth 2019).  

Mae gwefan Calonnau Cymru yn egluro pam mae’r gwasanaeth sgrinio y mae’n ei gynnig yn gyfyngedig i rai rhwng 8 a 45 mlwydd oed. Wyth yw’r isafswm oedran gan fod y galon yn dal i ddatblygu yn yr oedran hwn ac mae’n bwysig sicrhau y gellir cael darlleniad cywir. Mae’r grŵp oedran dros 45 oed yn fwyaf agored i gyflyrau’r galon a all achosi ataliad ar y galon, a gellir dangos y cyflyrau hyn gan y sgrinio. Fodd bynnag, mae pobl dros 45 oed yn fwy tebygol o ddioddef o gyflyrau na ellir eu canfod drwy sgrinio’r galon, fel trawiad ar y galon. Golyga hyn y gallai sgrinio ar y galon roi canlyniad hollol normal ar gyfer rhai cyflyrau’r galon, ond ni all ddiystyru’r posibilrwydd o drawiad ar y galon, yn anffodus.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau ar y Galon ym mis Ionawr 2017. Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ddatganiad ar y Cynllun Cyflawni yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Chwefror 2017.Codwyd mater datblygu gwasanaeth sgrinio priodol ar lefel y boblogaeth gyfan ar gyfer rhai cyflyrau ar y galon mewn ymateb i’r datganiad hwn, ac ar yr adeg honno, nid oedd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod am ddull gweithredu synhwyrol ar gyfer sgrinio’r boblogaeth yn y maes penodol hwn.

 

Gohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb

Mewn gohebiaeth â’r Pwyllgor, dyddiedig 6 Mawrth 2019, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi’r canlynol mewn perthynas â’r ddeiseb:

Ar y cyfan, mae rhaglenni sgrinio poblogaeth yn gallu achub bywydau drwy adnabod risgiau'n gynnar, ond er hynny, gallant hefyd wneud niwed drwy dynnu sylw at ffactorau risg na fyddent yn datblygu'n gyflwr difrifol neu'n gymhlethdod iechyd. Hefyd, gall rhaglenni sgrinio roi canlyniadau negyddol ffug, ac felly nid ydynt ychwaith yn gwarantu diogelwch, ac nid yw cael canlyniad risg isel yn golygu na fydd yr unigolyn hwnnw'n datblygu'r cyflwr yn nes ymlaen. Ni ddylid cynnig rhaglenni sgrinio poblogaeth ond pan fo tystiolaeth gadarn a thrylwyr y bydd y sgrinio'n gwneud mwy o les nag o ddrwg.

Mae Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UKNSC) yn cynghori Gweinidogion ym mhedair gwlad y DU ar bob agwedd ar sgrinio’r boblogaeth, ac mae Pwyllgor y UKNSC wedi ystyried sgrinio i atal Marwolaeth Sydyn oherwydd cyflyrau ar y Galon (SCD) ymhlith pobl ifanc 12 i 39 oed, ac nid yw’n cael ei argymell. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod y niwed yn sgîl sgrinio ar gyfer Marwolaeth Sydyn oherwydd cyflyrau ar y Galon ar hyn o bryd yn fwy na’r manteision. Nodir rhagor o wybodaeth am y casgliad hwn yn llythyr y Gweinidog, ac mae ynddo hefyd  linc i adolygiad ac argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn parhau i fonitro datblygiadau yn y maes hwn o iechyd y cyhoedd, ac os bydd rhagor o dystiolaeth ar gael sy’n awgrymu bod sgrinio’n fuddiol, rhoddir ystyriaeth briodol i hynny.

Mae’r Gweinidog hefyd yn nodi, er nad yw sgrinio ar gyfer y boblogaeth gyfan yn fuddiol, y dylid cynnig asesiadau clinigol i unigolion mewn teuluoedd pobl â gollodd rywun o gyflwr ar y galon heb ddiagnosis, er mwyn asesu eu risg. ‘Rhaeadru’ yw hyn, i adnabod achosion mewn poblogaeth risg uwch, yn hytrach na sgrinio asymptomatig poblogaeth gyfan.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.